OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 969 (Cy. 126) (C. 31)
Y Gymraeg, Cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 4) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adrannau 156(2) a 150(5) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac mae’n dwyn i rym ddarpariaethau yn y Mesur sy’n diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg.
Bydd y darpariaethau a gychwynnir gan y Gorchymyn hwn yn sicrhau bod swyddogaethau’r Bwrdd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn trosglwyddo i’r Comisiynydd. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn cychwyn darpariaethau sy’n rhoi pwerau ychwanegol i’r Comisiynydd gan gynnwys pwerau a fydd yn galluogi’r Comisiynydd i wneud y gwaith paratoadol sydd ei angen ar gyfer cyflwyno safonau sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y ddarpariaeth |
Y dyddiad cychwyn |
Rhif O.S. |
adran 2(2) (yn rhannol) adran 2(3) (yn rhannol) adran 23(1) (yn rhannol) adran 23(4)
adrannau 138 a 139 adran 146 (yn rhannol) adrannau 148 a 149 Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21 Atodlen 4, paragraffau 1, 5, 10 ac 11 Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 6 |
28 Mehefin 2011
28 Mehefin 2011
10 Ionawr 2012
10 Ionawr 2012
28 Mehefin 2011
28 Mehefin 2011
5 Chwefror 2012
28 Mehefin 2011
10 Ionawr 2012
28 Mehefin 2011
|
2011/1586 (Cy. 182) 2011/1586 (Cy. 182) 2012/46 (Cy.10) 2012/46 (Cy.10) 2011/1586 (Cy. 182) 2011/1586 (Cy. 182) 2012/223 (Cy.37)
2011/1586 (Cy. 182)
2012/46 (Cy.10)
2011/1586 (Cy. 182)
|
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 969 (Cy. 126) (C. 31)
Y Gymraeg, cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 4) 2012
Gwnaed 27 Mawrth 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 4) 2012.
Cychwyn
2.Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 1 Ebrill 2012—
(a) adrannau 2, 23, 138, 139 a 146 i’r graddau nad yw’r adrannau hyn eisoes mewn grym;
(b) Atodlenni 1, 4 a 12 i’r graddau nad yw’r Atodlenni hyn eisoes mewn grym;
(c) adrannau 3, 5 a 6;
(d) adran 7 ac eithrio
(i) isadrannau (2) a (6) lle mae’r isadrannau hynny’n ymwneud â Rhan 5,
(ii) is-adrannau (3)(b), (4), (8) a (10);
(e) Atodlen 2 ac eithrio paragraff 8(2)(a);
(f) adrannau 8 i 10 a 12 i 15;
(g) adran 16 ac eithrio isadrannau (2)(a) a (b);
(h) adrannau 17 i 19;
(i) cychwynnir Rhan 4 fel a ganlyn:
(i) Penodau 2 i 5,
(ii) Pennod 8, a
(iii) Pennod 9 ac eithrio adran 69;
(j) Atodlenni 5 i 9;
(k) Rhan 6;
(l) paragraffau 9 a 18 o Atodlen 11 ac adran 120(4) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny;
(m) adrannau 134 i 137;
(n) adran 140 ac eithrio’r canlynol:
(i) isadran (1)(c), a
(ii) isadrannau (1)(d) ac (e) lle mae’r isadrannau hynny yn cyfeirio at ymchwiliadau o dan Ran 5;
(o) adran 141 ac eithrio’r canlynol:
(i) isbaragraff (a) o’r diffiniad o “achwynydd”, a
(ii) isbaragraff (b) o’r diffiniad o “ymchwiliad”;
(p) adrannau 142, 143, 144(3)(b) a 147.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
27 Mawrth 2012